P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aled Thomas, ar ôl casglu 148 o lofnodion ar wefan e-ddeiseb arall.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru.
Mae’r elusen hon yn unigryw yng Nghymru. Nid yw Autism Spectrum Connections Cymru yn cael dim cyllid gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Mae’n dibynnu’n llwyr ar gyllid gan ffynonellau nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn gallu ei chefnogi’n barhaol.
Mae’r ganolfan galw heibio agored, unigryw hon yn chwarae rhan bwysig o ran gwella bywydau pobl sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru.
Hoffem gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yr elusen hon yn parhau i fod ar agor ac yn cael ei hariannu’n llawn o hyd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol De Cymru